Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Hydref 2012

 

 


Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus

1.     Ar 9 Hydref 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus (cymalau yn ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i gynlluniau newydd) at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol er mwyn iddo ystyried y darpariaethau perthnasol ac adrodd yn ôl arnynt.

2.    Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol adrodd yn ôl i’r Cynulliad erbyn 15 Tachwedd 2012.